Skip to content

Croeso

Grŵp o feithrinfeydd annibynnol yw Cymdeithas Tyfwyr Sir Gaerfyrddin, sy'n cydweithio i hyrwyddo garddwriaeth o fewn i'r sir brydferth hon a adwaenir fel "Gardd Cymru".

Alpines

Wedi ymgasglu fel cymdeithas, sylweddolwyd fod yr ystod o wahanol feithrinfeydd o fewn i'r grŵp mor amrywiol â'r tirwedd. Cynigir dewis eang o blanhigion megis rhai alpaidd, lluosflwydd, porfeydd a llwyni; coed celyn, ffrwythau a chyll; eirlysiau a blodau ar gyfer basgedi. Er fod yna nifer o blanhigion anarferol ac weithiau rai prin, mae'r hen ffefrynnau ar gael hefyd.

Grasses

Yn ystod y flwyddyn bydd cyfle i chi gyfarfod â'n tyfwyr i gyd yn yr un safle pan gynhelir nifer o ffeiriau planhigion. Mae dyddiadau a safleoedd y ffeiriau, ynghŷd â manylion y meithrinfeydd o safbwynt cyfeiriadau, oriau busnes, trefniadau ymweld ac ati, ar ein gwefan. Pan ddewch i un o'r ffeiriau planhigion, manteisiwch ar y cyfle i ymweld â gerddi hyfryd Aberglasney, Llangathen neu'r Gerddi Botaneg Cenedlaethol yn Llanarthne.

I'ch helpu i ddilyn Trywydd y Planhigion mae yna fap sy'n dangos lleoliad y gwahanol feithrinfeydd. Mae'r mwyafrif ohonynt ar agor ac mae croeso mawr i chi ymweld â nhw, ond er mwyn osgoi siom a siwrnai ofer, rhowch alwad ffôn ymlaen llaw os gofynnir am hynny.

Newyddion

Cefnogwyd gan

Gyngor Sir Gaerfyrddin a Chronfa Ewropeaidd Amcan 1 - Datblygiad Rhanbarthol

Carmartheshire County Council Objective 1 funding
Website by Pontbren