Skip to content

Aelodau

The Growth Business
Flower
The Nurseries, Cwmffrwd, Caerfyrddin, SA31 2LS.
Tyfir 100,000 o blanhigion bob blwyddyn yn y feithrinfa gyfanwerthu yma, yn cynnwys dewis eang o lwyni, blodau parhaol a choed mewn blychau, yn amrywio o faint plwg i 45ltr.
Meithrinfa ar agor dydd Llun i ddydd Gwener 8.25 a.m. hyd 4.45 p.m.; a 10.00 a.m. hyd 3.00 p.m. ar ddydd Sadwrn. Cwsmeriaid mânwerthu drwy apwyntiad.
Cysylltwch â: Howell Davies, ffôn 01267 236971 / 07817 401670 [Ebost Growth Business]
Fferm Danfforddgaer
Lakes
Pontarsais, Caerfyrddin, SA32 7DU.
Rwyf yn datblygu llwybr troed trwy goedtir, lle mae enghreifftiau o goed a llwyni, gerllaw safle tair erw o byllau ysgreten â phlanhigion dwr. Mae praidd o ddefaid pedigri Llyn hefyd yn y dyffryn hyfryd yma sy'n ffinio â safle Crochendy Gwili. Ar agor dydd Llun i ddydd Sadwrn drwy apwyntiad.
Cysylltwch â: Peter Sharp, ffôn 01267 253707
Meithrinfa Coed Ffrwythau Dolau
Apple tree
Capel Isaac, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 7TG.
Yn ein meithrinfa fechan yn hyfrydwch dyffryn Tywi, ger Llandeilo, rydym yn canolbwyntio ar dyfu coed ffrwythau sy'n addas i'w tyfu yng Nghymru, ac amrywiaeth o goed afalau Cymreig. Rydym hefyd yn cadw ychydig o fathau o goed anghyffredin o Siroedd y Gororau a nifer o goed seidr a diod gellyg o Dde Cymru. Mae coed ar gael o'r feithrinfa trwy'r flwyddyn mewn potiau neu yn ystod y gaeaf yn goed blwydd neu ddwy flwydd oed noethwraidd (gellir trefnu cludiant ar eu cyfer). Gallwn gael neu impio coed yn arbennig at eich anghenion. Gan mai meithrinfa fach, arbenigol ydym, cynigiwn gyngor manwl ar lefel bersonol.
Ymweliad â'r feithrinfa trwy apwyntiad.
Cysylltwch â: Paul neu Lynne Davis, ffôn 01558 668744 [Ebost Meithrinfa Coed Ffrwythau Dolau] [Meithrinfa Coed Ffrwythau Dolau Gwefan]
Meithrinfa Immanuel
Flower
Tŷ Plasgwyn, Heol Plasgwyn, Penygroes, Sir Gaerfyrddin SA14 7RY .
Meithrinfa fach yw Immanuel sy'n cynhyrchu planhigion lluosflwydd caled a lledgaled, yn cynnwys hen ffefrynnau'r ardd fwthyn, porfeydd addurniadol a rhai planhigion anghyffredin. Rydym hefyd yn cadw amrywiaeth o lwyni llus, gyda chanllawiau manwl am eu gofal. Ar agor drwy apwyntiad.
Cysylltwch â: Ann neu Barry Stanway, ffôn 01269 844288[Ebost]
Meithrinfa Pantygof
Flower
Fferm Pantygof, Alltwalis, Caerfyrddin, SA32 7DY.
Basgedi crôg a phlanhigion ar gyfer borderi a blychau yw ein harbenigedd. Gallwch brynu basgedi neu botiau wedi'u plannu'n barod neu ddod â'ch basgedi/blychau eich hunan fewn i'w plannu fel y dymunwch. Cewch wasanaeth personol a phrisiau cystadleuol. Gofynnir i ymwelwyr ffonio cyn dod i'r feithrinfa.
Cysylltwch â: Howard, ffôn 01267 253663
Planhigion Soames
Alpines
Iard yr Orsaf, Llanpumsaint, Caerfyrddin, SA33 6BU
Meithrinfa fach gyfanwerthu yn arbenigo mewn planhigion Alpaidd yw Planhigion Saomes. Planhigion yw'r rhain yn bennaf yn addas i'w tyfu tu allan yma yng Nghymru, neu mewn amgylchiadau cyffelyb, ond ceir hefyd rywfaint o ddewis o rai sy'n addas i'w tyfu mewn Tŷ Alpaidd, a blodau parhaol newydd neu anghyffredin.
Sefydlwyd y busnes yn 1988 yn Y Tymbl ger Llanelli cyn symud i safle hen Iard yr Orsaf yn Llanpumsaint yn 2004. Mae'r feithrinfa ar agor i gwsmeriaid cyfanwerthu o 10.00 a.m. hyd 4.00 p.m. Dydd Llun i Ddydd Gwener, a chwsmeriaid manwerthu drwy apwyntiad yn unig yn ystod yr un oriau. Mae ein planhigion ar werth mewn nifer o ganolfannau garddio lleol a ffeiriau planhigion. Gellir archebu drwy'r post hefyd. Ysgrifennwch neu e-bostio i dderbyn rhestr gyflawn o'r planhigion sydd ar gael.
Cysylltwch â: Janet neu Mike, ffôn 01267 281604 neu 07980 200994. [Ebost Planhigion Soames]
Meithrinfa Tradewinds
Flower
Ffynnonwen, Penybont, Caerfyrddin, SA33 6PX.
Enillwyr medal arian goreurog y Gymdeithas Arddwriaethol Brenhinol, Caerdydd. Arbenigwyr mewn coed anghyffredin ac anodd eu canfod, llwyni a llysieuol parhaol yn ogystal ag amrywiaeth eang o ffefrynnau'r ardd. Rydym yn cynnig dewis eang o blanhigion coetir, porfeydd a choed ffrwythau.
Gellir gweld nifer o'r planhigion yn tyfu yn ein gardd dair erw sydd ar agor i elusennau o dan y Cynllun Gerddi Cenedlaethol (CGC). Ceir manylion am oriau agor yn Llyfr Melyn y CGC.
Mae'r feithrinfa ar agor bob dydd heblaw am fore dydd Gwener ond ffoniwch ymlaen llaw er mwyn osgoi siom.
Cysylltwch â: Eve neu Stuart, ffôn 01994 484744.[Ebost Meithrinfa Tradewinds] [Meithrinfa Tradewinds Gwefan]
Gardd Waldron
Garden
Waldron, Alltwalis, Caerfyrddin, SA32 7EA.
Mae Gardd Waldron yn blanhigfa newydd sydd yn ymsefydlu yn gynnar yn 2008. Byddwn yn arbenigo mewn perlysiau, llysiau tymhorol, planhigion Cannas, Eurflodau, planhigion asbaragws Iseldiraidd.
Cysylltwch â: Chris Fuller drwy ffonio 01559 384499.[EbostGardd Waldron]
Welsh Holly
argentea marginata
Heol Dinbych y Pysgod, San Clêr, Caerfyrddin, SA33 4JP.
Mae'r feithrinfa yn arbenigo mewn celyn (Ilex) ac yn cadw dros 90 o fathau(cyltifar), yn amrywio o'r un gwyrdd cyfarwydd i'r anghyffredin gyda enwau estron megis "Dragon Lady", "Blue Prince" a "Silver Hedgehog". Tyfir y celyn mewn blychau yn amrywio mewn maint o 150mm i fyny at 1500mm. Mae'r planhigion yn addas ar gyfer gwrychoedd, tirlunio neu fel planhigion arddangos.
Yn ogystal â chelyn, rydym yn tyfu ystod o blanhigion arbenigol yn cynnwys coed cyll, eirlysiau a briallu.
Gwerthir drwy fanwethu, cyfanwerthu ac archebion post. Meithrinfa ar agor drwy apwyntiad.
Cysylltwch â: Philip neu Fiona Lanc, ffôn 01994 231789 [Ebost Welsh Holly][Welsh Holly Gwefan]
Crefftau Martinsell
Flower
Yn bennaf, twfwn blanhigion gardd a rhai sy'n hybu bywyd gwyllt i mewn i'r ardd. O eleni ymlaen, rydym yn defnyddio compost heb fawn a phlaladdwyr a bwyd organig ar gyfer planhigion. Rydym hefyd yn cynhyrchu amryw o grefftau o waith llaw, sy'n cynnwys byrddau adar, blychau nythu a bwydo. Rydym ond yn gwerthu mewn ffeiriau planhigion a digwyddiadau lleol eraill.
Cysylltwch â: Steve neu Karen on 01267 211539 or 0790 1707376 [EbostSteve and Karen]
Fferm Fychan Ffynnonwen
Flower
Dyma feithrinfa fechan sy'n tyfu planhigion llysieuol caled, llwyni, bylbiau, perlysiau a hadblanhigion llysiau . Nid yw'r feithrinfa ar agor i'r cyhoedd . Gwerthir y planhigion mewn ffeiriau, marchnadodd, sioeau a Marchnad Ffermwyr Caerfyrddin.
Cysylltwch â: Madge Pratt ar 01559 384412 [EbostMadge Pratt]
Planhigion Tanya
Flower
Godre'r Gors, Salem, Llandeilo, SA19 7HG
Mae gen i feithrinfa fach ble rydw i'n tyfu planhigion lluosflwydd gwydn yn bennaf, perlysiau a llwyni sy'n tyfu'n dda yn lleol. Mae'r mwyafrif o'r planhigion wedi'u tyfu mewn compost heb fawn.
Mae'r feithrinfa ar agor fel rheol rhwng 2 - 6 pm ond ffoniwch cyn cychwyn, os gwelwch yn dda, rhag cael eich siomi.
Cyswllt: Tanya Thomas ar 01558 824394
Isfryn Daylilies
Lily
Isfryn, Cwmifor, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 7AW
Mae Isfryn Daylilies yn blanhigfa fechan sy'n arbenigo ar Hemerocallis (y "lili undydd"), ac mae dros 2000 o gyltifarau mewn stoc. Mae dewis o hostas a phlanhigion lluosflwydd parhaol hefyd ar gael o bryd i'w gilydd. Maen nhw'n gwerthu mewn ffeiriau planhigion neu drwy'r post. Nodwch nad yw'r blanhigfa ei hunan ar agor i'r cyhoedd.
Cysylltwch â Sylvia Brown ar 01558 822 642 Symudol 07776 344 577 [Ebost Isfryn Daylilies][Isfryn Daylilies Gwefan]
Shipton Bulbs
Flower
Shipton Bulbs, Y Felin, Henllan Amgoed, Hendy-gwyn
Rydym yn blanhigfa fechan ar y ffin â Sir Benfro sy'n cael ei rhedeg gan deulu, sy'n arbenigo ar fylbiau a phlanhigion lluosflwydd cynhenid Ynysoedd Prydain, yn ogystal â phlanhigion eraill anfrodorol sy'n addas ar gyfer eu cynefino. Mae'r rhan fwyaf o'n busnes yn cael ei gynnal drwy'r post, ond croesewir ymwelwyr sy'n ffonio yn gyntaf.
Cysylltwch â John ar 01994 240125 [Ebost Shipton Bulbs][Visit Shipton Bulbs Gwefan]
Cymru Christmas Trees
Christmas tree
Llwyndu Farm, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, SA32 8HS
Tyfwyr Coed Nadolig Sbriws Norwy.
Gallwn hefyd ddarparu'r rhan fwyaf o fathau o goed Nadolig, fel Nordman, "Fraser" a Choed Pinwydd Llwydlas. Y Cyfan wedi'u tyfu yng Nghymru.
Cysylltwch â Roger ar 01269 844681 a 07710 380 010 [e-bost Cymru Christmas Trees][Visit Cymru Christmas Trees Gwefan]
Oakgrove Nurseries
Leaf
Llangynog, Carmarthen, Carmarthenshire, SA33 5HT
Rydym yn blanhigfa cyfanwerthu sy'n arbenigo mewn lluosogi llwyni, coed, planhigion lluosflwydd a gwair addurnol mewn plygiau. Mae ein cwsmeriaid yn amrywio o blanhigfeydd stoc mawr cenedlaethol i fusnesau teuluol bach lleol. Cynhyrchir chwe chan mil plwg y flwyddyn.
Rydym wedi datblygu planhigfa newydd i arbenigo mewn cynhyrchu 10 litr o blanhigion enghreifftiol mawr. Tyfwn dros 6,000 planhigyn y flwyddyn, gydag ystod eang o amrywiaethau megis Phormiums, Cordylines, Pittosporum, Fatsia, Sorbaria, Sambucus, Ceanothus, Bambw a gwair addurnol.
Mae'r blanhigfa ar agor i'r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos 8.30am - 5.00pm Ebrill - Awst ac ar ddydd Llun - ddydd Gwener 8.30 - 5.00pm am weddill y flwyddyn.
Cysylltwch â Richard and Laura Fletcher on 01267 211878 [ebost Oakgrove Nurseries]
Cynlluniau Gardd Cilshafe
Flower
1 Parc-y-Splotts, Tre Ioan, Caerfyrddin, SA31 3QU
Cyfle i ddarganfod yr ardd nad oeddech chi'n gwybod oedd gennych chi! Cynlluniau cyfan sy'n creu gerddi unigryw a chyffrous newydd, yn rhai bach neu rai mawr'. Cynlluniau plannu a fydd yn addas i'ch poced chi.
Ar gyfer eich holl anghenion gardd, a gwaith cynnal a chadw ar ôl hynny, ffoniwch Becky ar 01267 221320, ne drwy ebost
Tshili Cymru, Sir Gaerfyrddin
Chilli
Rydym yn gynhyrchwyr planhigion puprynnau bychan, yn arbenigo ar dyfu tshilis poeth, yn ogystal â chynhyrchu saws tshili unigryw o tshilis Cymreig. Yr oedd yn fraint hefyd i dyfu'r tshilis a gymeradwywyd yng gwobrau Gwir Flas Cymru 2008.
I archebu, neu am fwy o wybodaeth am ein cynnyrch, cysylltwch ag Andy neu Mike ar 01234 567898, or Ebost Gwefan
Canolfan Arddio The Works
works
Heol yr Orsaf, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin SA19 6NG
Canolfan arddio bach ond dethol yw The Works, sy'n arbenigo mewn amrediad eang o blanhigion lluosflwydd, coed a llwyni, perlysiau, coed ffrwythau a phrysgwydd.
r agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul, ac ar ŵyliau Banc, o 10.00am tan 5.00pm. Rydym yn hapus i gynnig cymorth a chyngor ar bob agwedd o gynllunio gerddi ac rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth canfod planhigion.
Cysylltwch â: Jon Storey ar 01558 824238 Symudol: 07752 917399